Tudalen:Straeon y pentan.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

waith. Cyflogais yn union fel rhyw fath o was i'r spinners, ac yr oeddwn yn bur ddedwydd fy lle. Yr oedd yno lanc arall tua'r un oed a mi yn yr un swydd, — bachgen wedi colli un llygad, ond yn gweled gyda'i un fwy nag a welai bechgyn yn gyffredin gyda'u dau lygad. William James oedd ei enw, a bachgen direidus dros ben ydoedd, a daeth ef a minau yn ffrindiau mawr yn fuan. Byddai William a minau yn gyfranog mewn rhyw driciau ar y spinners yn feunyddiol Ond yr oedd yn ddealledig rhwng Wil a minau ein bod i gymeryd y bai bob yn ail. Os y fi a gyhuddid o wneud y cast, cymerai Wil James y bai, ac felly y gwnawn inau pan gyhuddid yntau. Felly byddem yn arbed un cerydd, a rhai garw am geryddu oedd y spinners. Giaffer y spinning-room oedd Thomas Burgess, un o'r dynion bryntaf a mwyaf amhoblogaidd gyda'r gweithwyr a welais erioed. Ond yr oedd Burgess yn hynod o hoff o gellwair a gwneud mân driciau gyda'r dynion oedd dan ei ofal, ac felly nid oedd Wil James a minau yn isel iawn yn ei ffafr.

Yr oeddwn wedi darllen yn rhywle fod yn bosibl perswadio dyn iach i fod yn sal, a dyn sal i fod yn iach, os na fyddai ei salwch yn un tost iawn. Un awr ginio soniais am hyn wrth Thomas Burgess, ac ebe fe, —