Tudalen:Straeon y pentan.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flinai fwy ar Thomas nag oedfa galed, a lwc iddo nad ydyw yn fyw yn y dyddiau hyn. Yn mhen deng mlynedd cafodd Thomas Owen wahoddiad drachefn i fyn'd ar daith i'w sir enedigol. Yr oedd yr oedfa gyntaf i fod yn y Bala am ddeg yn y bore, a hysbyswyd ef y cai wybod wedi cyrhaedd yno am drefn ei gy hoeddiad. Cafodd fenthyg ceffyl Jones, Cefn-y-gader, i fynd ar y daith, a gobeithiai Thomas ar hyd y ffordd nad oedd Cwmtirmynach ar y list. Wedi pregethu yn y Bala, estynodd un o'r blaenoriaid drefn ei gyhoeddiad iddo, ac er ei ddychryn, yn Nghwmtirmynach yr oedd i bregethu am ddau o'r gloch. Ni ddywedodd Thomas air, ond penderfynodd ynddo'i hun y gyrai fel Jehu heibio capel Cwmtirmynach, gan nylu am y lle yr oedd i bregethu y nos. Pan o fewn rhyw haner milltir i'r capel rhoddodd Thomas wynt i'w geffyl er mwyn iddo allu tithio yn gyflymach heibio'r capel. Ond dyna rhyw hen wreigan wrth ei dwyffon yn dod allano ryw gaban ar fin y ffordd, ac ebe hi, " Wel, Thomas Owen anwyl, a rydach wedi dwad! Bendith ar y'ch pen chi! Mae deng mlynedd er pan fuoch chi yma o'r blaen." "Ah," ebe Thomas ynddo'i hun, "rwyt tithau yn cofio am