Tudalen:Straeon y pentan.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

elwid yn seiat plant, ac wrth edrych yn ol ar y cyfarfodydd hyny rhaid i mi ddweyd mai prif amcan Pitar Bellis, y gŵr oedd yn gofalu am y seiat, oedd cadw James Lewis i lawr, drwy ei rwystro i adrodd gormod o adnodau neu ranau o'r pregethau — gwasgu James i lawr i lefel y plant eraill, ac nid eu codi nhw i lefel James. Wrth feddwl am eiriau câs Pitar Bellis, mae'n syn gen i feddwl sut yr oedd yr hogyn yn dod yno o gwbl. "Paid a bod mor dafodog, y ngwas i bydd yn fwy cymedrol wrth adrodd y bregeth, nei di, paid a bod mor barod efo dy ateb, aros nes i mi ofyn i ti," a geiriau cyffelyb oedd yr ymadroddion mwynaf a gai James, druan. Bu yn hir iawn heb gael ei dderbyn yn gyflawn aelod, tra yr oedd eraill ieuengach a chyn ddyled a phost llidiart, wedi eu derbyn er's tro, a'r gwyn fwyaf oedd ganddynt yn erbyn James oedd ei fod yn troi ei wallt oddiar ei dalcen ac yn rhoi oel ynddo. Yr oedd hyny, ar y pryd, yn fwy trosedd na bod heb fedru'r Hyfforddur. Gallai James adrodd yr Hyfforddwr ar ei hyd, ac yr oedd yn fachgen honourable a charedig, ond ni thalai gan yr hen frodyr—yr oedd ganddo Q.P., ac yn rhy dafodog, fel y dywedai Pitar Bellis. Ac megis o.