Tudalen:Straeon y pentan.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd William; yr oedd dros ddwy lath o daldra, ac o gyfansoddiad cryf a chadarn. Yr oedd o hefyd yn cael ei gyfrif yn mhlith ei gymndogion yn un o'r dynion mwyaf dewr a diofn a ellid ei gyfarfod mewn blwyddyn. A da i William oedd hyny, achos yr oedd ei alwedigaeth yn gofyn iddo weithiau fod hyd y mynyddoedd bob adeg o'r nos, ac ar bob math o dywydd. Bugail mewn gwirionedd oedd William, ac os byddai rhyw anghaffael ar y defaid, ni wnai gerwindeb y tywydd beri iddo esgeuluso dim arnynt. Peryglodd ei fywyd ddegau o weithiau er mwyn hen ddafad neu oenyn diwerth ynddynt eu hunain. A mi fyddaf yn meddwl fod Duw yn cymeryd yn garedig ar ddyn am bethau felly — mae yna rywbeth dwyfol mewn mentro bywyd er mwyn cadw bywyd. Wel, yr oedd William yn caru merch yr Henblas, ac ar fin myn'd i'w briodi. A geneth landeg anwêdd oedd Susan yr Henblas, yr wyf yn ei chofio yn dda, ac wedi i William roi ei fryd arni, nid gwiw oedd i neb arall feddwl am dani o ofn William, achos, fel y dwedais, yr oedd William yn ddyn nerthol ryfeddol, er ei fod, am ddim a glywais, yn hollol ddiniwed, ac ni chlywais erioed ei fod yn meddwi nac yn arfer geiriau drwg. Yr oedd o'r