Tudalen:Straeon y pentan.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gryfder a gwasanaethgarwch cwn mawr Martin. Yr oedd ganddo dri o honynt, ac enw yr hynaf oedd Sam.

Yr oedd Sam wedi gweithio yn ddiwyd ar hyd y ffyrdd celyd am flynyddau lawer, ac wedi myn'd yn hen, a mi wyddost mai dengmlwydd yw canmlwydd ci. Ond yr oedd Sam yn ddeuddeng mlwydd oed, ac un diwrnod cloffodd yn dost, ac ni fedrai mwyach dynu'r fen. Bu Sam yn invalid yn nghut Martin am wythnosau, ac elai Hugh Burgess efo rhan o'i ginio iddo bob dydd y byddai yn yr ysgol, ac yr oedd y ddau wedi myn'd yn ffrindiau mawr. Ni choleddai Martin obaith y byddai i Sam wella fel ag i fod yn alluog i ail afael yn ei orchwyl o dynu'r fen, ac o herwydd hyny ni roddai iddo haner ddigon o fwyd, ac oni bai am Hugh Burgess credai Sam y buasai wedi llwgu er's talwm. Un canol dydd pan oedd Hugh yn cymeryd rhan o'i ginio i Sam, gwelai Martin yn myn'd o'i flaen i'r buarth, a gwn dan ei gesail. Rheddld Hugh a gofynodd i Martin beth oedd yn myn'd i'w wneyd.

"Saethu Sam," ebe Martin, "achos fydd o byth da i ddim."

Torodd Hugh i grio yn enbyd, a chrefodd am