Tudalen:Syr Owen M Edwards Detholiad o'i Ysgrifau.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn yr amaethdy mynyddig, yn y bwthyn ar fin y nant, yng nghartref y glowr,—yno y caiff ysbryd Cymru ei eni. Ac oni fegir hwn, cenedl ail raddol yn dynwared peth islaw ei bywyd, fydd cenedl y Cymry. Os ceidw ei henaid, daw yn un o arweinyddion y byd. Mewn gwladgarwch llednais a ffydd ddiysgog na fydded ein nod ddim yn is. (—Er Mwyn Cymru.)