Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HYSBYSIAD.

WRTH ddwyn allan yr argraffiad hwn o brif orchestwaith yr anfarwol BUNYAN, y mae yn weddus i ni alw sylw at rai o'i hynodion. Un ydyw , fod y gofal mwyaf wedi ei gymeryd i buro y testun oddiwrth y gwallau sydd yn anharddu rhai o'r cyfieithiadau blaenorol, ac i'w wneyd yn gyflun cywir o'r argraffiad Saesonig diwygiedig a gyhoeddwyd yn ddiweddar dan olygiad MR. GEORGE OFFOR. Un arall ydyw , fod y nodau eglurhaol wedi eu cymeryd gan mwyaf o weithiau BUNYAN ei hunan, ac fel hyn rhoddir y fantais i'r cyhoedd o weled yr awdwr yn ei esbonio ei hun. Yn drydydd, y mae y gwaith wedi ei addurno â chyfres o'r darluniau mwyaf prydferth a chelfydd -gar, y cyfan wedi eu cyfaddasu i daflu goleuni ychwanegol ar ei ymdriniaethau pwysig a dyddorol Ac yn nglyn a'r rhagoriaethau hyn, yr ydym yn cyhoeddi hanes bywyd yr awdwr wedi ei ddarparu yn bennodol i'r gwaith hwn, yn yr hwn y ceir amryw ffeithiau na chyhoeddwyd o'r blaen yn yr iaith Gymraeg. Yr ydym gyda hyder, gan hyny, yn cyflwyno y gyfrol hon i sylw ein cyd -genedl, fel argraffiad anghymarol o waith sydd er's oesoedd wedi cael ei ystyried yn un o lyfrau mwyaf dewisol a buddiol y byd Cristionogol.

Y CYHOEDDWYR.