Tudalen:Taith y pererin darluniadol.pdf/323

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

TAITH Y PERERIN .

rhag fy llewygfeydd.

Efe a'm daliodd, ac a'm gwaredodd rhag fy holl anwireddau ; ie,

fy nghamrau a gadamhawyd yn ei ffordd.'

Tra yr oedd efe fel hyn yn llefaru newidiodd ei wedd ; ei nerth a ymollyngodd : ac wedi dywedyd o hono, Cymer fi, canys yr wyf yn dyfod atat, ni welwyd ef ganddynt mwyach.

Ond gogoneddus oedd canfod fel y llenwid y gororau fry â meirch a cherbydau, ag udganwyr a thelynorion, â'r rhai a ganent ac a chwareuent ar bob math o offer cerdd, i groesawu'r pererinion ar eu derchafiad, ac ar eu gwaith yn dilyn eu gilydd i borth prydferth y ddinas.2

Mewn perthynas i blant Cristiana, ei phedwar mab a ddygai i'w chanlyn, yn nghyda'u gwragedd a'u plant, ni arhosais lle yr oeddwn hyd onid aethant drosodd. Ond clywais un yn dywedyd, er pan ymadewais â'r fangre, eu bod yn fyw eto, ac yn debyg o fod felly dros amser, er cryfhad ac ychwanegiad i'r eglwys yn y lle. Pe dygwyddai i mi fyned y ffordd hòno eto, gallwn roddi, i'r sawl a chwennychai hyny, hanes am yr hyn yr wyf yma yn ddystaw am dano : yn y cyfamser, ddarllenydd hawddgar, BYDD WYCH .

1 “ Y mae yr araith hon wedi eu chanmol yn fawr. Y mae yn deilwng o sylw fod y pererinion yn yr holl anghraifftiau hyn o'u blaen, yn rhoi eu hunig bwys ar derfyn eu bywyd, ar drugaredd Duw yn nghyfiawnder ac iawn ei Fab, a'r un pryd yn gallu adgofio cywirdeb eu cariad at achos, esiampl, a geiriau Crist." — Scott. ? “ Y mae yr olygfa ar farwolaeth heddychlawn a gorfoleddus y pereridion yn rhwym o effeithio ar bob darllen ydd, nes peri fod llawer, fe dilichon, yn barod i ddywedyd, Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau ;” ond oddieithr y gwnant ef yn brif orchwyl i fyw bywyd yr uniawn, fe siomir y cyfryw ddymuniad. Caniataed yr Arglwydd i'r ysgrifenydd a'r darllenydd gael ' trugaredd yn y dydd hwnw,' a chael eu cyfarch yn y geiriau grasol, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a barotowyd i chwi er seiliad y byd .'" - Scott.

Y DIWEDD .

CYHOEDDEDIG OAN R. AUGAES AND SON , WREXHAM .