Tudalen:Tan yr Enfys.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bob (yn edrych tros restr y gwahoddedigion): Credaf eu bod i gyd yma'n awr.

Santa Clôs (yn ddifrifol iawn): I gyd? Gwyddwn y byddech yn anghofio un-yr orau o bawb.

Y Plant (yn edrych y naill at y llall): Pwy allai fod? Pwy?

Santa Clôs: Rhaid i mi fy hun fynd i arwain yr orau o bawb i'r wledd.

[Y Plant yn sisial ac yn edrych tua'r drws. Clywir siarad dyfal y tu allan. "Yn wir yr wyf yn brysur iawn; 'does gen i ddim amser heddiw," a "Rhaid i chwi ddod; dewch yn wir. Yr wyf am i chwi ddod." "Wel, mi ddo am ychydig o amser." Santa Clôs yn arwain i mewn y Fam, mewn ffedog wen, a basin pwdin a llwy fawr bren yn ei llaw.]

Santa Clôs: Dyma hi! Dyma hi!

Y Plant: Mam! Mam!

Y Fam: Yr ydych yn garedig iawn, fy mhlant i, ond 'dyw'r pwdin ddim ar y tân eto, a rhaid i mi wneud y deisen hefyd.

Santa Clôs: 'Steddwch am funud. Cymerwch fy sêt i. (Yn llenwi'r glasses o win—yn codi'i las i fyny. Y lleill yn gwneud yr un fath. Gellir defnyddio