Siân: Sut y mae'r tywydd 'nawr?
Siôn: Go wael, Siân fach. (Yn edrych i'r ochr, ac yn gweld un o'r Tylwyth Teg.) Helo! A garech chwi ddod tan y 'brela rhag y glaw?
Un o'r Tylwyth Teg: Fe'r ydych yn garedig iawn, ond y mae gennyf glogyn da, diolch.
Siân: Gyda phwy yr ydych yn siarad, Siôn?
Siôn: Merch ifanc lân, hawddgar.
Siân: O 'n wir.
[Y Tylwyth Teg yn cerdded tuag at ochr Siân, ac yn edrych i mewn.]
Siân (yn gwenu): Dewch i mewn.
Un o'r Tylwyth Teg: Mi eisteddaf ar y fainc fan yma. Y mae'r glaw yn peidio.
[Yn eistedd. Siôn a Siân yn symud eto.]
Siân: Siôn a Siân ym ni. Tebig i chwi glywed lawer gwaith amdanom ni.
Un o'r Tylwyth Teg: O do, yr ydych mor hapus ac mor annwyl y naill i'r llall fel bod pobl yn dweyd, "Mor hapus a Siôn a Siân."
Siôn: Eithaf gwir, ond nid fel yna y bu hi'n wastad. Cawsom ein cosbi am ffraeo, ac yn awr y mae Siân yn wastad i mewn pan fyddaf innau allan,