Tudalen:Tan yr Enfys.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pwca yn y canol yn canu'r fflwt; y Tylwyth Teg yn canu a dawnsio yn rhes tu ol iddo.]

Un o'r Tylwyth Teg: Y mae rhywun yn dod.

[Y ddawns yn aros a phawb yn edrych.]

Un arall: Y Frenhines Titania yw.

[Herald yn dyfod i mewn gan chwythu corn.]

Herald:Gwnewch ffordd i'r Frenhines Titania.

[Y Tylwyth Teg yn ymrannu i ddwy ochr y llwyfan. Y Frenhines Titania gyda Thylwyth Teg bach yn dyfod i mewn—y Tylwyth Teg yn canu.]

Croeso i'n Brenhinas hardd
Glanach yw na blodau'r ardd
Croeso, croeso iddi hi
Titania, ein Brenhines ni.

Titania: Croeso, fy mhlant. Mae'r adar a'r blodau i gyd yn cysgu. Daeth awr y Tylwyth Teg i ddawnsio a chanu. Ond pwy yw plant y ddaear yma?