Tudalen:Tan yr Enfys.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mair: Oes posib dy fod ti yn credu'r fath sothach, John?

John: Edrych yma, Mair. Beth oedd gwerth y glass?

Mair: Tua swllt.

John: Wel, a dweyd y lleiaf, y mae swllt o golled yn canlyn.

Mair (yn chwerthin): Wel, John, yr wyt yn smart!

Dafydd (wedi cael gafael yn ei grafat): Wel, 'rwy' i yn mynd a'ch gadael. Tebig y byddwch yn credu yn y Tylwyth Teg nesa'.

Betsi: Pa syndod fod y plant yn gwadu! Paid ti â gwatwar, Dafydd, rhag ofn i ti fynd i'w cylch heno!

Dafydd: Peidiwch â hidio, ni bydd rhyw lawer o golled. Oni ddeuaf yn ol erbyn deg, byddaf yn y ddawns gyda'r Tylwyth Teg. Good-bye!

Betsi: Paid ti â chellwair, Dafydd! Y mae dy well di wedi mynd i'w dwylo cyn heno.

Dafydd: Da bo chwi!

[LLEN.]