Tudalen:Tecel gan Gabriel Parry, cyhoeddwyd yn 1854.pdf/2

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

RHAGYMADRODD


Hynaws Ddarllenyddion.


Yr unig achos a wnaeth i mi feddwl am argrafu'r Llyfr hwn, ydoedd cael pigiad i'm llaw wrth fedi, ac felly, yn analluog i ddilyn fy ngwaith, ac arnaf eisiau beunydd nol ymborth i ddiwallu fy nheulu, felly soniais wrth ryw rai o'm caredig ffrindiau fod arnaf flŷs hel yr ychydig ganiadau a wnaethym at eu gilydd. Cefnogodd llawer fi i fyn'd yn mlaen, a dymunaf arnaf roddi hanes fy mywyd; y byddai hyny yn fwy pleser ganddynt, gan ddisgwyl gael coffa y ?roiau drwg, sef meddwi, ac ymladd, ac felly yn y blaen. Considrais inau, os gwnawn hyny y byddwn yn offeryn yn llaw Sattan i'w gyru i bechu. A dyna yr unig, achos a'm rhwystrodd. Ond gan imi addaw rhoddi hanes fy mywyd, rhoddaf y ddau beth mwyaf edifar gennyf eu gwneuthur yn fy oes, sef yn gyntaf, Cymerais