Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TELYN SEION.

CAROL 1.[1]

Mesur-TEMPEST OF WAR.

GYN'LLEIDFA gariadus, cyd-ganwn fawl melus,
Ag odlau soniarus, daionus, i Dduw ;
O'i gariad trag'wyddol, trwy Grist y Maen Bywiol,
Agorodd ffordd rasol i'w bobl gael byw:
Trwy rinwedd ei ras, yn wyneb ei was,
Y cofiodd blant gorthrwm, y codwm du, câs;
Ac heddyw'n ddiwâd, 'nol cyngor y Tad,
Esgorodd trugaredd y rhyfedd Fab rhad.

Cymerodd y Duwdod, yn sylwedd dibechod,
Ein natur, sef dyndod, yn gysgod i'r Gair,
Trwy'r Ysbryd santeiddiol y ffurfiodd gorff dynol
I'w berson anfeidrol, y'meidrol groth Mair;
A'r hynod Fair hon, esgorodd yn llon
Ei Thad a'i Chreawdwr, gwir Brynwr ger bron !
Nid gorwych lys rhi, llon, prydferth, llawn bri,
Ond preseb isel-gor, i'w esgor ga'dd hi!

Etifedd coronau, Cynnaliwr unbenau,
Gan Mair ar ei gliniau, mewn bratiau di bris,
Creawdwr yr hollfyd mewn preseb âg anwyd,
Pa Lazarus gornwydlyd a welwyd yn is?

  1. Di-enw yn y llyfr ond gwaith David Hughes (Eos Iâl)