Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telyn Seion sef Pedwar ar Bymtheg o Garolau Nadolig.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O Bosra gynt a'i wisg yn goch
O'r wasgfa gaeth;
Fe sathrodd ar elynion lu,
Gorchfygwr yw, Gorchfygwr fu,
Fe ddwg ei saint, fu, ddaw, ac sy,
I fyny'n fyw;
Ca'dd fuddugoliaeth lawn o wledd
Ar angau, uffern, byd, a'r bedd,
Esgynodd fry i feusydd hedd,—
Efe sydd Dduw.

Mae eto'n d'od, yn barod b'om
Tra byddom byw,
I ymgyfarfod mewn gwir ffydd
Bob dydd â'n Duw;
Rho'wn gyfrif o'r or'chwyliaeth hon,
Ni thâl esgusion ger ei fron,
Mae'n adwaen gwraidd y galon gron
Mewn golwg rhydd;
O am ein caffael ynddo fe,
Fel gogoneddus blant y ne',
Bydd llon ein lle ar ei law ddê,
Pan ddêl ei ddydd.

—ROBERT DAVIES, Bardd Nantglyn.

CAROL 3.

Mesur—GRISIAL GROUND.

FE greodd Duw ddyn, yn lanwaith ei lun,
'Doedd ynddo yn reddfol had marwol ddim un;
Uwch Angel oedd e', uwch Seraph y ne',
Daearol ben arglwydd a llywydd y lle;
Yn awr Tri yn Un a wnaethant i'r dyn
Ymgeledd, gwraig wiw lwys, wareiddlwys o'i lun;
Oh! ddedwydd gyflyrau, llawn o bob rhinweddau,
Heb wg yn eu heiliau, gwag eiriau na gwŷn;
Mewn cyflwr teg wawr, ni fuont hwy fawr,
O ganol dedwyddyd hwy lusgwyd i lawr;
Oh! ddeuddyn anhyfryd, mawr iawn fu'r cyfnewid,
I ninau'r un ffunud mae'n ofid yn awr.