Gwirwyd y dudalen hon
YR AFON.
CAETHES y glannau,
A'i chri am ryddhad;
Dyna yw'r afon —
Merch fach yr eigion
Gaethgludwyd o'i gwlad.
Hirnos a gwawrddydd,
Ar dywod a gro —
Ceidw ym mhoblle
Ei hwyneb at adre,
Fel rhiain o'i bro.
Nid eill y marian
Arafu ei lli,
Na'r glasgoed ei llithio,
Ond i orffwyso —
Y môr iddi hi.
Sia'n wylofus,
Ar lechwedd a dôl;
Hiraeth sydd arni,
Ac nid yw'n ei golli
Nes cyrraedd yn ôl.