Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

COELCERTHI'R BANNAU.

(Hwyr yn Ionawr; goddeithio ar y mynyddoedd; hynny'n awgrymu'r gân.)

Dacw goelcerth ar Eryri,
Gwenfflam lygad yn y gwyll!
Chwiliwch, dadau, am y gwayw,
Chwiliwch, lanciau, am y cyll;
Doed a ddelo, rhaid yfory
Gadw erwau'n bro a'i braint;
Hawl gwladgarwch fyth yw gofyn
Gwaed y byw dros lwch y saint.

Dacw'r Moelwyn Mawr yn galw,
Dacw fflam yn ateb fflam!
Mae pob mynydd yn deimladwy,
Oni ddial Cymru'r cam?
Gaiff yr allfro ffordd yr elo
Gwympo'n cestyll hyd y llawr?
Beth a wnewch chwi yn yr ogof
Fintai segur Arthur Fawr?

Dacw goelcerth gwŷr Ardudwy
Fel yn troi y môr yn waed!
Iorwerth —Harri —pwy yw'r brenin?
Pa ddyhirwch ganddo wnaed?
A wnawn a ni yn Gymry,
Oddef hyn heb ei wahardd?
Drodd y delyn yn fradwrus,
Neu a wywodd llaw y bardd?