Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae'r ewyn yn wyn
Ar y mordraeth gerllaw —
Cyn wynned dalen
Y llyfr yn fy llaw —
A hed y gylfinhir
Fel cri trwy y nef,
Gan ofn y rhyferthwy,
A'i ddicter ef.

Ein Tad, cofia'r morwr
Rhwng cyfnos a gwawr;
Mae'i long ef mor fechan,
A'th fôr Di mor fawr.