Gwirwyd y dudalen hon
MUN AC OENIG.
GWELAIS hi ar fin y traeth,
Yn y mis blodeuai'r perthi ;
Geneth fwyn â llygad ffraeth,
A'r gwefusau cochaf ganddi.
Cawsai, pe fel llawer mun,
Gymaint arall o fodrwyau
Ag oedd yn ei gwallt ei hun,
Gan gynifer o gariadau.
Yn ei chanlyn fel peth hoff,
Pleth o flodau am ei gwddw,
Yr oedd oenig fechan gloff,
Elwid ganddi wrth ei henw.
Pethau ieuainc oedd y ddwy,
A chwaraeent mor ddiniwed,
Fel yr oedais beth yn hwy—
Haws oedd oedi nag oedd myned.
Safai'r oenig fach yn gall,
Rhedai, safai am gydymaith ;
Brefai'r oenig, chwarddai'r llall
Yna rhedai'r ddwy ar unwaith.
Ni fu chwarae gwell erioed,
Na dedwyddach, nes i'r oenig
Golli ei hanafus droed
Ar y gwmon llyfn a llithrig.