Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hoffais di yn ieuanc, Men,
Cyn i'th flagur dorri'n flodau
Hoffais di drwy bopeth, Men,
Drwy dy wên a thrwy dy ddagrau.
Doed a ddel ohonot, Men,
Ni eill neb dy garu eto
Fel y gwnaeth dy Alun, Men,
Fel y gwna dy Alun heno.