Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BLODAU A SERCH.

GWYNNODD yr afallen,
Lawer tro, fy merch,
Er pan safem dani
Yn ieuenctid serch;
Heno blodau eraill
Welaf uwch fy mhen,
A chariadon eraill
Chwarddant dan y pren.

Er ein cariad cyntaf
Gwelsom ddeuddeng Mai,
Eto yn y galon
Nid yw serch yn llai.
Er heneiddio'r blodau
Ceidw'r pren yr un —
Gwreiddia serch yn ddyfnach
Fel yr elon hŷn.