Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

EBRILL.

I.


MEDD y bardd yn wyn ei fyd —
"Wele Ebrill glas ei lygad ";
"Wele Ebrill," medd y byd,
Trwy ei flodau hanner —caead.

Ti, freuddwydiwr, gwrando, saf,"—
Medd aderyn yn y berllan;
Cana lawen garol haf,
Wedi gŵyl o flwyddyn gyfan.

"Fardd y blodau, wele fi " —
Medd briallen yn y cysgod;
Hoff gan bawb ei hwyneb hi,
Blentyn llonnaf haul a chawod.

Yn y galon, yn y pridd,
Nid yw bywyd fud na byddar;
Dywed cân a llygaid dydd
Deimlad dyfnaf dyn a daear.

II.


Pwy fu neithiwr hyd y ddôl,
Mewn sandalau aur ac arian?
Pwy fu'n galw'r dail yn ôl,
Ac yn llithio'r blodau allan?