Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MEDI.

CROESO Medi, fis fy serch,
Mis y porffor ar y ffriddoedd;
Pan y ceni'th glychau mêl
Casgl y gwenyn o'r dyffrynnoedd:
Os yw blodau cyntaf haf
Wedi caead yn y dolydd,
Onid blodau eraill sydd
Eto 'nghadw ar y mynydd?

Croeso Medi, fis fy serch,
Pan fo'r mwyar ar y llwyni,
Pan fo'r cnau'n melynu'r cyll,
Pan fo’n hwyr gan ddyddiau nosi:
Tlws yw'th loergan ar y môr,
Yn ymsymud ar y tonnau:
Tlws yw'th loergan ar y maes
Ym mhriodas yr ysgubau.

Croeso Medi, fis fy serch,
Clir fel grisial yw'th foreau —
Clir fel grisial er fod Duw 'n
Arogldarthu ar y bryniau:
Nid oes gwmwl ar y grug,
Nid oes gysgod ar y rhedyn;
Pan y ceni'th glychau mêl,
Cyrchaf finnau gyda'r gwenyn.