Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

TRIOEDD Y MYNYDD.

UCHEDYDD.

CERI'R glas a cheri'r twyn,
Codi a disgynni eilchwyl;
Rhaid fod rhywun yn y brwyn
Yn dy garu, yn dy ddisgwyl;
Gyda'th gân gadewi hi,
Gyda'th serch doi'n ôl i'r ddaear —
Canwn innau, fel tydi,
Pe bai gennyf finnau gymar.

LLYN.


Onid wyt, i mi, fel deigryn,
Gyll y mynydd mawr?
Cwsg y byd, — defnynni dithau
Ddydd a nos i lawr:
Wyr y mynydd unig yntau
Am ryw ofid cudd?
Mae ei galon fel f'un innau'n
Wylo nos a dydd.

GRUG.


Gwyn dy fyd di, rug y mynydd,
Gwyn dy fyd o wydd y dref;
Er dy fwyn mae haul a chwmwl,
Gwlith y wawr a sêr y nef;
Gwyn dy fyd di, rug y mynydd,
Heb yn ymyl un o'th ryw:
Ni ofeli dros yfory, —
Gwyddost y gofala Duw.