Gwirwyd y dudalen hon
BARDD A BLODEUYN.
CANODD bardd o genedl arall
Gân i ti;
Yn ei ysgol, llai na'r lleiaf
Ydwyf fi.
Eto, canaf finnau ganig,
Fyrred fydd,
Gan dy alw wrth dy enw,
Lygad Dydd.
Leied wn i o dy hanes,
Fywyd tlws!
Tithau yn gymydog agos,
Ger fy nrws.
Ym mh'le gwelwyd dy wynepryd
Gyntaf un?
Drowyd dithau o baradwys
Gyda dyn?
Sut y gwyddost ddyfod gwanwyn
Heibio'r ffridd?
Eilw rhywun, "Cyfod, bellach,"
Yn y pridd?
Byddi'n cau dy lygad, meddir,
Yn yr hwyr;
Ai i gysgu a breuddwydio —
Pwy a ŵyr?