Gwirwyd y dudalen hon
PERTHI MAI.
WEDI mynd o blu yr eira,
Eraill ar y perthi gryn;
Onid ydynt fel breuddwydion
Maboed, gyda'u golud gwyn?
Tlws yw'r dail fel gwerdd phylacter,
Eddi gwisg o liain main;
Tlws yw'r blodau yn eu gwynder,
Fel o serch yn cuddio'r drain.
Hoff yw gennyf flodau'r perthi —
Onid oedd eu brodyr hận
Yn blodeuo fis fy ngeni?
Blodyn Mai wyf fi fy hun.