Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ni ddeallwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch;

15 Canys brasâwyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â'u clustiau yn drwm, ac a gauasant eu llygaid; rhag canfod â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall a'r galon, a throi, ac i mi eu hiachâu hwynt.

16 Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a'ch clustiau, am eu bod yn clywed:

17 Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwennychu o lawer o brophwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.

18 ¶ Gwrandewch chwithau gan hynny ddammeg yr hauwr.

19 Pan glywo neb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae y drwg yn dyfod, ac yn cipio yr hyn a hauwyd yn ei galon ef. Dyma yr hwn a hauwyd ar fin y ffordd.

20 A'r hwn a hauwyd ar y creigleoedd, yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn;

21 Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir.

22 A'r hwn a hauwyd ym mhlith y drain, yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu y gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth.

23 Ond yr hwn a hauwyd yn y tir da, yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri-ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.

24 ¶ Dammeg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a hauodd had da yn ei faes:

25 A thra yr oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a hauodd efrau ym mhlith y gwenith, ac a aeth ymaith.

26 Ac wedi i'r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd.

27 A gweision gwr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni hauaist di had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae yr efrau ynddo?

28 Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a'u casglu hwynt?

29 Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu yr efrau, ddiwreiddio y gwenith gyd â hwynt.

30 Gadêwch i'r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf: ac yn amser y cynhauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i'w llwyrlosgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.

31 ¶ Dammeg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a'i hauodd yn ei faes:

32 Yr hwn yn wir sydd leiaf o'r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o'r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.