3 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi?
4 Canys Duw a orchymynodd, gan ddywedyd, Anrhydedda dy dad a'th fam: a'r hwn a felldithio dad neu fam, lladder ef yn farw.
5 Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynnag y ceit lês oddi wrthyf fi, ac ni anrhydeddo ei dad neu ei fam, difai fydd.
6 Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun.
7 O ragrithwyr, da y prophwydodd Esaias am danoch chwi, gan ddywedyd,
8 Nesâu y mae y bobl hyn attaf â'u genau, a'm hanrhydeddu â'u gwefusau; a'u calon sydd bell oddi wrthyf.
9 Eithr yn ofer y'm hanrhydeddant i, gan ddysgu gorchymynion dynion yn ddysgeidiaeth.
10 ¶ Ac wedi iddo alw y dyrfa atto, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch, a deallwch.
11 Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r genau, sydd yn halogi dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o'r genau, hynny sydd yn halogi dyn.
12 Yna y daeth ei ddisgyblion atto, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti ymrwystro o'r Phariseaid wrth glywed yr ymadrodd hwn?
13 Ac yntau a attebodd ac a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir.
14 Gadewch iddynt: tywysogion deillion i'r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos.
15 A Phetr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni y ddammeg hon.
16 A dywedodd yr Iesu, A ydych chwithau etto heb ddeall?
17 Onid ydych chwi deall etto, fod yr hyn oll sydd yn myned i mewn i'r genau, yn cilio i'r bola, ac y bwrir ef allan i'r geudy?
18 Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau, sydd yn dyfod allan o'r galon; a'r pethau hynny a halogant ddyn.
19 Canys o'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, torr-priodasau, godinebau, lladradau, cam-dystiolaethau, cablau:
20 Dyma y pethau sydd yn halogi dyn: eithr bwytta â dwylaw heb olchi, ni haloga ddyn.
21 ¶ A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.
22 Ac wele, gwraig o Canaan a ddaeth o'r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarhâ wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul.
23 Eithr nid attebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion atto, ac a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hol.
24 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel.
25 Ond hi a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymmorth fi.