Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

17 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlawn a throfaus, pa hyd y byddaf gyd â chwi? pa hyd y dioddefaf chwi? dygwch ef yma attaf fi.

18 A'r Iesu a geryddodd y cythraul; ac efe a aeth allan o hono: a'r bachgen a iachâwyd o'r awr honno.

19 Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o'r neilldu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?

20 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symmud oddi yma draw; ac efe a symmudai: ac ni bydd dim ammhosibl i chwi.

21 Eithr nid â y rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac ympryd.

22 ¶ Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yn Galilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylaw dynion:

23 A hwy a'i lladdant; a'r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.

24 ¶ Ac wedi dyfod o honynt i Capernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Petr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athraw chwi yn talu teyrnged?

25 Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i'r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymmer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth ? gan eu plant eu hun, ynte gan estroniaid?

26 Petr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae y plant yn rhyddion.

27 Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i'r môr, a bwrw fach, a chymmer y pysgodyn a ddêl i fynu yn gyntaf; ac wedi i ti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymmer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi a thithau.

PENNOD XVIII.

1 Crist yn rhybuddio ei ddisgyblion i fod yn ostyngedig ac yn ddiniwed; 7 i ochelyd rhwystrau, ac na ddirmygent y rhai bychain: 15 yn dysgu pa fodd y mae i ni ymddwyn tu ag at ein brodyr, pan wnelont in herbyn; 21 a pha sawl gwaith y maddeuwn iddynt: 23 yr hyn beth y mae yn ei osod allan trwy ddammeg y brenhin a gymerai gyfrif gan ei weision, 32 ac a gospodd yr hwn ni wnaethai drugaredd a'i gydymmaith.

AR yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?

2 A'r Iesu a alwodd atto fachgennyn, ac a'i gosododd yn eu canol hwynt;

3 Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddi eithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.

4 Pwy bynnag gan hynny a'i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw y mwyaf yn nheyrnas nefoedd.

5 A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a'm derbyn i.

6 A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.