Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.

27 Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho, ac a'i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo y ddyled.

28 Ac wedi myned o'r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o'i gydweision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gàn ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.

29 Yna y syrthiodd ei gyd-was wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd âg ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.

30 Ac nis gwnai efe; ond myned a'i fwrw ef y'ngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.

31 A phan welodd ei gyd-weision y pethau a wnelsid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i'w harglwydd yr holl bethau a fuasai.

32 Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef atto, a ddywedodd wrtho, Ha was drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am i ti ymbil à mi:

33 Ac oni ddylesit tithau drugarhâu wrth dy gyd-was, megis y trugarheais innau wrthyt ti?

34 A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i rhoddodd ef i'r poenwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo. 35 Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o'ch calonnau bob un i'w frawd eu camweddau.

PENNOD XIX.

2 Crist yn iachâu y cleifion: 3 yn atteb y Phariseaid am ysgariaeth: 10 yn dangos pa bryd y mae priodas yn angenrheidiol: 13 yn derbyn plant bychain: 16 yn dysgu i'r gwr ieuangc y modd i gael bywyd tragywyddol, 20 ac i fod yn berffaith: 23 yn dywedyd i'w ddisgyblion mor anhawdd ydyw i'r goludog fyned i mewn i deyrnas Dduw; 27 ac yn addaw gwobr i'r sawl a ymadawant & dim er mwyn ei ganlyn ef.

A BU, pan orphenodd yr Iesu yr ymadroddion hyn efe gadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Judea, tu hwnt i'r Iorddonen:

2 A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef; ac efe a'u hiachaodd hwynt yno.

3 ¶ A daeth y Phariseaid atto, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlawn i wr ysgar â'i wraig am bob achos?

4 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i'r hwn a'u gwnaeth o'r dechreu, eu gwneuthur hwy yn wrryw a benyw?

5 Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gâd dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a'r ddau fyddant yn un cnawd.

6 O herwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gyssylltodd Duw, na ysgared dyn.

7 Hwythau a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny y gorchymynodd Moses roddi llythyr ysgar, a'i gollwng hi ymaith?

8 Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, o herwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â'ch gwragedd: eithr o'r dechreu nid felly yr oedd.

9 Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â'i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae yr hwn a briodo yr hon a ysgarwyd, yn torri