neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y càn cymmaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe.
30 Ond llawer o'r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a'r rhai olaf yn flaenaf.
PENNOD XX.
1 Crist, trwy ddammeg y gweithwyr yn y winllan, yn dangos nad ydyw Duw yn ddyledwr i neb: 17 yn rhag-fynegi ei ddioddefaint: 20 trwy atteb i fam meibion Zebedëus, yn dysgu i'w ddisgyblion fod yn ostyngedig; 30 ac yn rhoddi i ddau ddyn dall eu golwg.
CANYS teyrnas nefoedd sydd debyg i wr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhâu, i gyflogi gweithwyr i'w winllan.
2 Ac wedi cyttuno â'r gweithwyr er ceiniog y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w winllan.
3 Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa;
4 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i'r winllan; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi.
5 A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd.
6 Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur?
7 Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwithau i'r winllan; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a'i cewch.
8 A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw y gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechreu o'r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf.
9 A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog.
10 A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog.
11 Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gwr y tŷ,
12 Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'u gwnaethost hwynt yn gystal a ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd, a'r gwres.
13 Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrth un o honynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cyttunaist â mi?
14 Cymmer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn megis i tithau.
15 Ai nid cyfreithlawn i mi wneuthur a fynnwyf â'r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?
16 Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
17 ¶ Ac a'r Iesu yn myned i fynu i Jerusalem, efe a gymmerth y deuddeg disgybl o'r neilldu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt,
18 Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusalem; a Mab y dyn a draddodir i'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth,
19 Ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd, i'w watwar, ac