Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddywedasid trwy y prophwyd, yn dywedyd,

5 Dywedwch i ferch Sïon, Wele dy frenhin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol â'r iau.

6 Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchymynasai yr Iesu iddynt.

7 A hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a'i gosodasant ef i eistedd ar hynny.

8 A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorrasant gangau o'r gwydd, ac a'u taenasant ar hyd y ffordd.

9 A'r torfeydd, y rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ol, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fab Dafydd: Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd: Hosanna yn y goruchafion.

10 Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerusalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw/hwn?

11 A'r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y prophwyd o Nazareth yn Galilea.

12 ¶ A'r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a'r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau y newidwyr arian, a chadeiriau y rhai oedd yn gwerthu colommenod:

13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ysgrifenwyd, Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.

14 A daeth y deillion a'r cloffion atto yn y deml; ac efe a'u hiachaodd hwynt.

15 A phan welodd yr arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant,

16 Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?

17 ¶ Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o'r ddinas i Bethania, ac a lettŷodd yno.

18 A'r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i'r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd.

19 A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth atto,ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.

20 A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymmwth y crinodd y ffigysbren!

21 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Os bydd gennych ffydd, ac heb ammeu, ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i'r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fynu, a bwrier di i'r môr; hynny a fydd.

22 A pha beth bynnag a ofynoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch.

23 ¶ Ac wedi ei ddyfod ef i'r deml, yr arch-offeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant atto, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn?