Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd,

44 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed di?

45 Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo?

46 Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o'r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach.

PENNOD XXIII

1 Crist yn rhybuddio y bobl i ddilyn athrawiaeth dda, ac nid esamplau drwg yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid. 5 Rhaid i ddisgyblion Crist ochelyd eu rhyfyg hwy. 13 Mae efe yn cyhoeddi wyth wae yn erbyn eu rhagrith a'u dallineb hwy; 34 ac yn prophwydo dinystr Jerusalem.

1 YNA y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a'i ddisgyblion,

2 Gan ddywedyd, Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid.

3 Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt.

4 Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion, ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o'u bysedd.

5 Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth;

6 A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau,

7 A chyfarch yn y marchnadoedd, a'u galw gan ddynion. Rabbi, Rabbi.

8 Eithr na'ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist, a chwithau oll brodyr ydych.

9 Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd.

10 Ac na'ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist,

11 A'r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi.

12 A phwy bynnag a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a'i gostyngo ei hun, a ddyrchefir.

13 ¶ Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a'r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn.

14 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych y llwyr-fwyta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddïo: am hynny y derbyniwch farn fwy.

15 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys amgylchu yr ydych y môr a'r tir, i wneuthur un proselyt, ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern, yn ddau mwy na chwi eich hunain.

16 Gwae chwi, dywysogion deillion! y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynnag a dwng i'r deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dwng i aur y deml, y mae efe mewn dyled.

17 Ffyliaid, a deillion: canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y deml sydd yn sancteiddio'r aur?