Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain ariani'r arch-offeiriaid a'r henuriaid,

4 Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di.

5 Ac wedi iddo daflu yr arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth a ac a ymgrogodd.

6 A'r arch-offeiriaid a gymmer asant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlawn i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa; canys gwerth gwaed ydyw.

7 Ac wedi iddynt gyd-ymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dïeithriaid.

8 Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd heddyw.

9 (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremias y prophwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymmerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel;

10 Ac a'u rhoisant hwy am faes y crochenydd, megis y gosododd yr Arglwydd i mi. )

11 A'r Iesu a safodd ger bron y rhaglaw: a'r rhaglaw a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenhin yr Iuddewon? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.

12 A phan gyhuddid ef gan yr arch-offeiriaid a'r henuriaid, nid attebodd efe ddim.

13 Yna y dywedodd Pilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di?

14 Ac nid attebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr.

15 Ac ar yr wyl honno yr arferai y rhaglaw ollwng yn rhydd i'r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent.

16 Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas.

17 Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai yr Iesu, yr hwn a elwir Crist?

18 Canys efe a wyddai mai o gen figen y traddodasent ef.

19 ¶Ac efe yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ei wraig a ddanfonodd atto, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â'r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddyw mewn breuddwyd o'i achos ef.

20 A'r arch-offeiriaid a'r henuriaid berswadiasant y bobl, fel y gofynent Barabbas, ac y difethent yr Iesu.

21 A'r rhaglaw a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas.

22 Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i'r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croeshoelier ef.

23 A'r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.

24 ¶ A Philat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymmerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylaw ger bron y bobl, gan ddywedyd, Dïeuog