Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel.

20 Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseph, mab Dafydd, nac ofna gymmeryd Mair dy wraig: oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o'r Yspryd Glân.

21 A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU: oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.

22 (A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y prophwyd, gan ddywedyd,

23 Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab; a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel; yr hyn o'i gyfieithu yw, Duw gyd â ni.)

24 A Joseph, pan ddeffroes o gwsg, a wnaeth megis y gorchymynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ei wraig:

25 Ac nid adnabu efe hi hyd oni esgorodd hi ar ei mab cyntaf-anedig. A galwodd ei enw ef IESU.

PENNOD II.

1 Y doethion yn cael eu cyfarwyddo at Grist trwy weinidogaeth seren: 11 yn ei addoli ef, ac yn cyflwyno eu hanrhegion. 14 Joseph yn ffoi i'r Aipht, efe, a'r Iesu a'i fam. 16 Herod yn lladd y plant; 20 ac yn marw. 23 Dwyn Crist yn ei ol i Galilea i Nazareth.

1 AC wedi geni yr Iesu yn Bethlehem Judea yn nyddiau Herod frenhin, wele, doethion a ddaethant o'r dwyrain i Jerusalem,

2 Gan ddywedyd, Pa le y mae yr hwn a anwyd yn Frenhin yr Iuddewon? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli ef.

3 Ond pan glybu Herod frenhin, efe a gyffröwyd, a holl Jerusalem gyd âg ef.

4 A chwedi dwyn ynghyd yr holl arch-offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynodd â hwynt pa le y genid Crist.

5 A hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem Judea: canys felly yr ysgrifenwyd trwy y prophwyd:

6 A thithau, Bethlehem, tir Juda, nid lleiaf wyt ym mhlith tywysogion Juda: canys o honot ti y daw Tywysog, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.

7 Yna Herod, wedi galw y doethion yn ddirgel, a'u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasai y seren.

8 Ac wedi eu danfon hwy i Bethlehem, efe a ddywedodd, Ewch, ac ymofynwch yn fanwl am y mab bychan; a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y gallwyf finnau ddyfod a'i addoli ef.

9 Hwythau, wedi clywed y brenhin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan.

10 A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben.

11 ¶ A phan ddaethant i'r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyd â Mair ei fam; a hwy a syrthiasant i lawr, ac a'i haddolasant ef: ac wedi agoryd eu trysorau, a offrymmasant iddo anrhegion; aur, a thus, a myrr.

12 Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd,