Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u datguddio o honot i rai bychain:

26 Ië, O Dad; canys felly y rhyngodd bodd i ti.

27 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddatguddio iddo.

28 ¶ Deuwch attaf fi bawb a'r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch.

29 Cymmerwch fy iau arnoch, a dysgwch gennyf; canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau:

30 Canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd ysgafn.

PENNOD XII.

1 Crist yn ceryddu dallineb y Phariseaid, o ran torri y Sabbath; 3 trwy ysgrythyrau, 10 trwy reswm, 13 a thrwy ryfeddod; 22 yn iachâu y dyn cythreulig, mud, a dall. 31 Ni faddeuir . byth gabledd yn erbyn yr Yspryd Glân. 36 Y rhoddir cyfrif am eiriau segur. 38 Y mae yn ceryddu yr anffyddloniaid a geisient arwydd; 49 ac yn dangos pwy yw ei frawd, a'i chwaer, a'i fam.

YR amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Sabbath trwy yr ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwytta.

2 A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Sabbath.

3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd âg ef?

4 Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwyttaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwytta, nac i'r rhai oedd gyd âg ef, ond yn unig i'r offeiriaid?

5 Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabbathau yn y deml yn halogi y Sabbath, a'u bod yn ddigerydd?

6 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi fod yma un mwy na'r deml.

7 Ond pe gwybasech beth yw hyn, Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn rhai diniwed.

8 Canys Arglwydd ar y Sabbath hefyd yw Mab y dyn.

9 Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i'w synagog hwynt.

10 ¶ Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai rhydd iachâu ar y Sabbathau? fel y gallent achwyn arno.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn o honoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Sabbath, nid ymeifl ynddi, a'i chodi allan?

12 Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabbathau.

13 Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a'i hestynodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall.

14 Yna yr aeth y Phariseaid allan, ac a ymgynghorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.

15 A'r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno; a thorfeydd lawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachaodd hwynt oll;

16 Ac a orchymynodd iddynt, na wnaent ef yn gyhoedd:

17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd,

18 Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn foddlawn: gosodaf fy yspryd arno, ac efe a draetha farn i'r Cenhedloedd.

19 Nid ymryson efe, ac ni lefain; ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.

20 Corsen ysig nis tyrr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth. 21 Ac yn ei enw ef y gobeithia y Cenhedloedd.

22 ¶ Yna y dygpwyd atto un cythreulig, dall a mud: ac efe a'i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud.

23 A'r holl dorfeydd a synnasant.