29 ¶ Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a'i canlynodd ef.
30 Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.
31 A'r dyrfa a'u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwy-fwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarhâ wrthym.
32 A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur o honof i chwi?
33 Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.
34 A'r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â'u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a'i canlynasant ef.
PENNOD XXI.
1 Crist yn marchogaeth ar asen i Jerusalem; 12 yn gyrru y prynwyr a'r gwerthwyr o'r deml; 17 yn melldithio y figysbren; 23 yn gostegu yr offeiriaid a'r henuriaid, 28 ac yn eu ceryddu trwy gyffelybrwydd y ddau fab, 33 a'r llafurwyr a laddasant y rhai a anfonwyd attynt.
A PHAN ddaethant yn gyfagos i Jerusalem, a'u dyfod hwy i Bethphage, i fynydd yr Olew-wydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl,
2 Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyd â hi: gollyngwch hwynt, a dygwch attaf fi.
3 Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae yn rhaid i'r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a'u denfyn hwynt.
4 A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy y prophwyd, yn dywedyd,
5 Dywedwch i ferch Sïon, Wele dy frenhin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol â'r iau.
6 Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchymynasai yr Iesu iddynt.
7 A hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a'i gosodasant ef i eistedd ar hynny.
8 A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorrasant gangau o'r gwydd, ac a'u taenasant ar hyd y ffordd.
9 A'r torfeydd, y rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ol, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fab Dafydd: Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd: Hosanna yn y goruchafion.
10 Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerusalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw/hwn?
11 A'r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y prophwyd o Nazareth yn Galilea.
12 ¶ A'r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a'r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau y newidwyr arian, a chadeiriau y rhai oedd yn gwerthu colommenod:
13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ysgrifenwyd, Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
14 A daeth y deillion a'r cloffion atto yn y deml; ac efe a'u hiachaodd hwynt.
15 A phan welodd yr arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant,
16 Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?
17 ¶ Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o'r ddinas i Bethania, ac a lettŷodd yno.
18 A'r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i'r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd.
19 A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth atto,ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.
20 A phan welodd y disgyblion,