"Morwyn mam wyf fi'n mynd i fod," ebe Mair, gan godi oddiar ei hystôl, a phlethu ei braich am fraich ei mam.
"O'r gore, Mair," ebe'r fam. "Feallai y gwnei di gymaint o les yn y byd fel hynny. Mae llawer o'r bobl orau yn byw trwy eu hoes heb fawr o sôn amdanynt.
"Hei," ebe Alun, heb glywed dim o'r siarad, dyma fi wedi gwneud llong. Edrychwch ar yr hwylbren dal a'r hwyl wen yma! A gaf fi fynd i'w threio ar yr afon fach, mam?"
"Heno, ar y glaw yma? Na, mae yfory'n ddigon cynnar at hynny, 'machgen i."
"'Nawr, Eiry fach, mae'n hen bryd dy fod di yn dy wely," ebe hi, gan godi'r un fechan ar ei chôl. Beth mai Eiry fach yn mynd i fod, ys gwn i?"
Plentyn nodedig o dlws oedd Eiry. Yr oedd ei gwallt fel modrwyau aur o gylch ei phen, a chroen ei thalcen, ei gwddf, a'i breichiau, unlliw â llaeth newydd ei odro. Yr oedd gwên ar ei hwyneb yn wastad, a direidi lond ei llygaid glas. Gwnai gyfeillion