PENNOD IV
ANGHOFIODD hyd yn oed Alun am y llong pan welwyd y gŵr a'r wraig yn disgyn oddi ar y clawdd ac yn dyfod tuag atynt. Edrychodd y tri yn syn ar y dieithriaid. Eiry oedd yr unig un na chymerth sylw ohonynt. Ymhellach ymlaen ar y ffordd, gwelent gerbyd, a'r gyrrwr yn unig ynddo, yn aros am y ddau yn ddiau.
Ni welsai'r plant erioed o'r blaen neb wedi ymwisgo mor hardd; a'r hyn a barodd fwyaf o syndod i Ieuan ac Alun oedd fod y dyn yn gwisgo modrwy, un lydan a thlws iawn, ar ei fys bach. Ar ddillad hardd y wraig yr edrychai Mair-rhai o'r un lliw â blodau'r grug oeddynt.
Y dyn a siaradai â'r plant. Holai hwynt am lawer o bethau-pa le yr oeddynt yn byw; beth oedd eu henwau; beth a wnaent ar y rhos; ac yn bennaf am Eiry-pam yr oedd yn gorwedd ar ei hyd felly, heb esgidiau na hosanau; ai côt Ieuan oedd amdani, ac ai ei dillad hi a welent ar y grug yn sychu? Siaradai'r ddau â'i gilydd yn Saesneg.