i'w brynu, a'r rhai a gawsai'r bechgyn i brynu hetiau gwellt iddynt hwythau eu dau.
Yr oedd y plant yn effro gyda'r haul ar y bore Iau hwnnw, oherwydd disgwylid iddynt fod ar ben y rhiw fach erbyn hanner awr wedi pump i gwrdd â phobl Bronifor a'r rhai yr oeddynt yn eu cario. Mor hyfryd oedd aros yn y fan honno yn ieuenctid y dydd i edrych ymlaen at ysbaid hir o bleser! Gwelent rai llwythi llawn a llawen yn pasio, a chyn hir gwelent gambo fawr Bronifor a'r ddau geffyl glas yn dod i'r golwg ar waelod y rhiw. Yr oedd calonnau'r plant yn llawn hyd yr ymylon. Dawnsient a chwaraent yn ddilywodraeth o gylch eu mam. Bellach, wele'r gambo yn sefyll yn eu hymyl, ac er yr ymddangosai'n llawn yn barod, caed ynddi ddigon o le iddynt i gyd-y fam a'r ddwy eneth rywle yn y canol, ac Ieuan ac Alun yn y lle oedd hoff ganddynt-ar y sachaid wair y tu ôl, a'u traed yn hongian dros yr ymyl. Caent deithio saith milltir felly, i fyny ac i lawr y rhiwiau, gan yrru'n chwyrn weithiau, a chanu i gyd bryd arall, nes cyrraedd glan y bae glas a welent bob dydd o'u cartref.
Cyraeddasant yno tua hanner awr wedi saith o'r gloch-cyn i'r rhan fwyaf o bobl y lle adael eu gwelyau. Rhyw sŵn oer,