gerllaw yn ymddiddan â rhywun, ac yn gwylio cwch bychan draw ar y môr yn yr hwn yr oedd Ieuan ac Alun, gydag amryw eraill, a phwy ddaeth heibio ond y gŵr a'r wraig a welsent ar y rhos!
"Here is that lovely child again," ebe'r wraig, gan blygu i siarad ag Eiry ac i gael gweld a oedd yn ei chofio. Gwenai Eiry arni fel cynt, a gadawai i'r wraig ei chusanu faint a fynnai. Drwy gyfrwng ei gŵr, gofynnodd i'r ddwy fechan beth a hoffent gael o'r siop.
"Dol!" oedd ateb parod y ddwy, a chawsant ar unwaith bob un y ddoli harddaf a welodd eu llygaid erioed. Pan ddaeth Gwen Owen ymlaen i ddiolch i'r wraig ddieithr, edrychodd honno arni â dagrau lond ei llygaid, a dywedodd—
"You have two dear little girls, and I have not one."
Rhy gynnar o lawer y bu'n rhaid cefnu ar y fan swynol. Gwelent belydrau machlud haul ar wyneb y lli pan symudent yn araf i fyny'r rhiw oddi wrtho. Ymhell cyn cyrraedd eu cartref, yr oedd pawb wedi distewi, ac Eiry fach, gan ddal y ddol yn dynn yn ei breichiau, yn cysgu'n dawel yng nghôl ei mam.