Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ardd, a gorchuddid y clôs o flaen y tŷ a'r lôn fach gan ddail meirwon gwlyb, a daflesid i lawr yn nirmyg y storm, ac oddi ar yr ychydig a oedd ar y canghennau, disgynnai dafnau glaw fel dagrau hiraeth. Dywedai Natur mewn iaith ddidroi'n-ôl fod yr haf drosodd. Tua hwyr y dydd, daeth niwl tew i guddio bro a bryn.

Ond er prudded y tymor, llon iawn oedd calonnau'r plant y bore hwnnw. Cawsant wisgo eu dillad dydd Sul a'u hesgidiau i fynd i'r ysgol, ac yr oedd honno wedi ei glanhau a'i haddurno, fel mai o'r braidd y gellid ei hadnabod. Ar ganol y llawr yr oedd bwrdd wedi ei osod, a lliain gorwych drosto, ac ar hwn gwelai'r plant swp o flodau hardd mewn llestr, a nifer fawr o lyfrau deniadol yr olwg. Crynhowyd y disgyblion at ei gilydd yn un dosbarth mawr i aros dyfodiad y gŵr dieithr, ac yn fuan, clywyd curo ar y drws, ac ef oedd yno.

Dyn tal, llednais yr olwg a'i wallt a'i farf fel y gwlân, oedd Mr. Puw. Heb wybod paham, teimlai y twr plant, fach a mawr, ar unwaith wrth eu bodd yn ei gwmni. Wedi ychydig ymddiddan â'r meistr, a chyn dechrau cyflwyno'r gwobrwyon, cododd ar ei draed, dywedodd wrth y plant fod ganddo neges