Mae mam yn dweud, syr, os gwnaf fy ngwaith yma yn iawn, y byddaf yn sicr o gael gwell gwaith rywbryd.'
Pa waith a hoffech ei gael? "’
Bod yn Aelod Seneddol dros Gymru, ' ebe Ieuan yn ddibetrus, a methai â deall pam 'roedd Mr. Bowen yn edrych arno am gyhyd o amser, ac yn gwenu.
Wedi ymholi ymhellach ynghylch ei fam a'r teulu gartref, ac am yr ysgol y buasai ynddi, a pha wersi a hoffai fwyaf, gadawodd Mr. Bowen ef, gan fynd heibio i'r lleill ac ymgomio â hwy, nes daeth yn amser i ail— gydio yn y bladur a'r rhaca.[1]
Yn ystod y dyddiau dilynol, deuai Mr. Bowen yn fynych i ymddiddan â'r gwas bach, a daeth Ieuan yn fuan i feddwl nad oedd y fath ddyn yn y byd â Mr. Bowen.
Un diwrnod gwlyb tua diwedd Awst, yr oedd y ddau was yn yr ysgubor yn gwneud rhaffau gwellt yn barod erbyn toi yr helmau llafur. Troi oedd gwaith Ieuan. Yn ei law yr oedd offeryn bychan a bach wrtho.
- ↑ Cribinau yn y Gogledd.