Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

garedig a thyner wrth blant eraill llai na chwi. Dywed fy mrawd yng nghyfraith yma eich bod yn ofalus gyda'ch gwaith, ac yn onest gyda'ch amser, a dywed eich mam na fu mab gwell gan neb erioed."

Mam sydd wedi fy nysgu, syr," ebe Ieuan yn ddistaw.

Ie, da i chwi fod mam mor dda gennych, ac yn awr, yr wyf am i chwi gofio mai'r pethau hyn a ddysgodd eich mam i chwi—bod yn onest, yn eirwir, yn ffyddlon ac yn garedig— yw'r pethau sydd wedi eich cychwyn ar ffordd llwyddiant; a'r rhai hyn, os cedwch hwynt, sydd yn mynd i wneud dyn ohonoch. Mae pethau fel hyn yn sicr o dalu i bawb, hyd yn oed yn y byd yma, hwyr neu hwyrach. Os gwnewch eich gorau gyda mi, gwnaf finnau fy ngorau i chwi. Cewch eich cyfle i ddod ymlaen, a phwy ŵyr? feallai y gwelir chwi yn Aelod Seneddol ryw ddydd. Mae eisiau dynion da ar Gymru, ac ar y byd. Ieuan, 'roedd gen i fachgen bach tua'r un oed â chwi. Mae hwnnw yn y bedd erbyn hyn, a'i fam wedi ei ddilyn. 'Rwyf am i chwi dreio llanw lle hwnnw yn fy mywyd."

A phan ddistawodd Mr. Bowen yn sydyn, roddes Ieuan ei law iddo, a dywedodd, gan edrych i'w lygaid yn ôl ei arfer—