Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wylai Gwen Owen ac wylai Mair gyda hi, a methwyd â bwyta borefwyd yn y bwthyn y bore hwnnw, er mai dydd mawr dyfodiad y bechgyn oedd, am fod un o'r teulu bach na ellid ei ddisgwyl.

"Rhaid i ni anghofio hyn heno, Mair fach," ebe'r farn, "a phaid â dweud dim am y peth wrth y bechgyn. Nid wyf am eu tristau wedi iddynt ddod adref."

Tua hanner awr wedi chwech, aeth Mair i ben y lôn fach i ddisgwyl y fen fawr, gyda'r hon y deuai Ieuan ac Alun o orsaf Llanerw.

"Dyma fi wedi dod â hwy i chwi unwaith eto," ebe'r gyrrwr wrth Mair, oherwydd adwaenai hi yn dda. Disgynnodd y ddau fachgen tal, golygus, am y cyntaf, gan redeg at eu chwaer a'i chusanu, a holi mi o gwestiynau iddi â'u lleisiau dwfn, ac aethant eu tri, fraich ym mraich yn llawen i'r bwthyn lle'r oedd eu mam, a'r bwrdd llawn, a'r croeso cynnes yn eu disgwyl.

Noson hyfryd iawn oedd honno wrth y tân yn Nantoer. Yr oedd gan y ddau lawer i'w ddweud. Un o newyddion gorau Ieuan oedd ei fod wedi ei wahodd i fod yn Ymgeisydd Seneddol dros sir neilltuol yn yr etholiad nesaf. "Felly, peidiwch â synnu, mam,"