yn iawn. Felly y bu. Prynais ystôr o ddillad bychain iddi yn Lerpwl. Bu hi o'r dechrau mor ddiddig â phetai gyda'i mam. Dywedais wrth fy nghyfeillion yn Hamilton mai merch fach i chwaer fy mhriod oedd, yn cael ei dwyn i fyny gennym ni.
Galwasom hi yn "Elsie—Elsie May," ac yn fuan, ni chofiai hi o gwbl am "Eiry na neb o deulu'r bwthyn. Da i mi nad oedd ond prin tair oed ar y pryd. Gan fod fy mhriod yn Gymro, dysgasom hi i arfer y ddwy iaith. Treuliasom un flwyddyn ar ôl y llall yn llawen fel chwedl. Ceisiwn feddwl fod y lles yr oeddwn yn ei wneud i'r un fechan yn gwneud i fyny am yr ing a barodd fy ngweithred i'r fam.
Yn 1896, cyfarfu fy mhriod â'i angau drwy foddi, a bu agos i'r un a alwn yn ferch, ac a garwn fel fy merch fy hun, foddi hefyd. Achubwyd hi gan ei brawd. Cofiwn enwau'r plant er y dydd cyntaf hwnnw ar y rhos, a phan glywais yr enw "Alun Owen," syllais arno ac adwaenais ef. Onid oedd ei lygaid yn union fel rhai Eiry? Pan welais y llygaid hynny yn edrych arnaf, a'i weld ef yn rhoi ei chwaer fechan yn ôl i mi o grafangau angau, tra'i galon fach ei hun wedi bod yn ddiau yn