Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Teulu Bach Nantoer.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd y cyfan, ac y dihunai ryw fore gan deimlo'r ing yn ei chalon am Eiry fel o'r blaen. Ond yn raddol, daethant yn gyfarwydd â'u dedwyddwch. Erbyn hyn, nid oes deulu hapusach o fewn y byd. Yn agos i'r bwthyn, rhyngddo â'r ffordd fawr, y mae ganddynt dŷ newydd hardd, ac yno y mae Mair ac Eiry yn llonni'r lle, ac yn gwneud popeth a allant i sirioli bywyd eu mam. Yno hefyd y daw ar ei dro Ieuan Owen, yr Aelod Seneddol ieuanc, brwdfrydig a phoblogaidd. Daw hefyd mor fynych ag y gallo y Capten Alun Owen o'r môr. Y mae ei fam a'i ddwy chwaer wedi bod eisoes am fordaith yn ei long. Dywed ef, na fyddai Eiry hyd eto wedi ei chael oni bai iddo ef, ers llawer dydd yn ôl, fynnu bod yn forwr.

Nid byw iddynt eu hunain a wnânt. Yr un fam dyner, ddiwyd a da, sydd yn y tŷ newydd ag a oedd gynt yn y bwthyn, a'i gair hi yw deddf y plant o hyd. Y mae eu hardal, eu gwlad, a'r byd yn well ohonynt.

Hyd yma y dilynwn eu hanes. Gadawn hwy oll yn wyn eu byd.