newydd mewn gwaith coed. Tua deg oed oedd ef, a golau oedd ei wallt a'i lygaid. Ar bob i ystôl fechan, eisteddai Mair ac Eiry fach, a phen tywyll y naill a gwallt modrwyog melyn y llall yn cwrdd â'i gilydd uwchben y llyfr darluniau newydd a oedd o'u blaen. Saith oed oedd Mair, a dwy flwydd a hanner oedd Eiry. Wrth y ford gron a'r lamp eisteddai Gwen Owen, y fam, yn prysur wau hosan, a'i llygaid yn aros yn garuaidd ar y naill ar ôl y llall o'i hanwyliaid bach.
Ni welid y tad ar yr aelwyd Ers mwy na dwy flynedd yr oedd enw Elis Owen wedi ei gerfio ar garreg fedd ym mynwent Y Bryn. Anaml y soniai'r fam am dano wrth y plant. Gwell oedd ganddi i Ieuan ac Alun beidio â'i gofio o gwbl, nag iddynt ei gofio yn dad meddw yn blin ymlwybro tua'r tŷ yn hwyr y dydd. Gan iddo wario ei holl arian, a marw cyn cyrraedd canol oed, gorfu i'r weddw ieuanc ofyn am help y plwyf i fagu ei phedwar plentyn. Enillai hithau ychydig drwy wnïo i hon ac arall, fel y gwnai yn gynharach yn ei bywyd, ac yr oedd yn Nantoer ddigon o dir i gadw un fuwch.
Gwraig dal oedd Gwen Owen. Gwallt du, tonnog, fel gwallt Mair, oedd ganddi, ond bod llinellau arian drwyddo i gyd erbyn hyn.