Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Thomas Matthews, Cymru, Ionawr 1917.djvu/2

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CYMRU.

CHWEFROR, 1917.

THOMAS MATTHEWS.

"Y da wneir ydyw ein hoes,
Ac wrth hyn bydd gwerth einioes."


YM mhlith cymwynaswyr Cymru a hunasant yn ystod y flwyddyn ddiweddaf haedda Thomas Matthews le anrhydeddus. Ni fu neb yn fwy teilwng o'r enw gwladgarwr nag ef, ac o'r ffaith hon y mae darllenwyr CYMRU yn brofedig, canys ar eich tudalennau yr arllwysodd ef ei galon yn fwy mynych efallai, ac yn sicr yn fwy rhydd, nag mewn unman arall. Ac yn wir, i'r rhai sydd wedi darllen yn ofalus ei aml gynhyrchion yn y cylchgronau, y mae calon a meddwl Tom Matthews yn hysbys ddigon, oherwydd o helaethrwydd ei galon llefarai yn wastad. Anfynych yr ysgrif ennai er mwyn cyfrannu addysg yn unig; proffwyd ydoedd a neges ganddo i'w thraethu i'w wlad. Yr oedd wedi cael gweledigaeth a threuliodd ei nerth allan wrth geisio gwneud pawb i gyd-gyfranogi ag ef o'r goleuni.

Bywyd efrydydd a llenor oedd ei fywyd ef, heb fawr o'r rhamantus ynddo na dyddordeb ond i'r rhai sydd am sylwi ar fachgen o Gymro yn ei ymdrech am wybodaeth ac ar ddatblygiad graddol o'i alluoedd.

Ganwyd Thomas Matthews yng Nglanwendraeth, Llangyndeyrn, sir Gaerfyrddin, ar y 3ydd o Fedi, 1874, yn fab i Mr. Robert Matthews, ysgolfeistr; ond symudodd ei rieni yn nechreu 1876 i Landybie, yn yr un sir, pan nad oedd Tom ond ychydig dros flwydd oed. Felly Llandybie oedd ei gartref erioed i'w ymwybyddiaeth ef, a Llandybie fu ei gartref hyd y diwedd. Gorwedda y pentref mewn llannerch agored hyfryd yn amgauedig tua'r gogledd gan drumiau o gerrig calch, trwy y rhai y gwthia yr afon fach Morlais ei ffordd, ar hyd dyffryn llydan, i'r Llwchwr. Y mae amlinell ramantus yr uchel- diroedd sydd yn cuddio mewn dirgelwch y gororau tuhwnt, a'r dyffryn cyfoethog sydd yn agor tua'r dehau, yn uno ffurfio golygfa hynod o swynol hyd yn oed i lygad sydd gynefin â thlysni cymoedd Cymru, ac y mae'r olygfa yn awgrymiad- ol o athrylith Thomas Matthews. Yr oedd ei feddwl yn gyfoethog o adnoddau, ond yr oedd wedi ei amgylchynu gan ddelfrydau dros y rhai, gyda llygad cyfrin, y syllai ar yr anweledig. Yma yn Llandybie tyfodd i fyny fel llawer bachgen arall yn y wlad, gyda dyheadau wedi eu hennyn a'u porthi gan ddylanwadau cartref diwylliedig, ond heb y cyfleusterau anghenrheidiol i'w sylweddoli. Ond yr oedd ei dad yn ysgolfeistr, ac yr oedd greddf y bachgen ar ddiwylliant, a'r unig ffordd oedd yn agor y pryd hwnnw iddo i'w sicrhau oedd myned yn pupil teacher. Felly gwasanaethodd ei brentisiaeth fel athraw yn yr Ysgol Genedlaethol dan lygaid ei dad. Bu yn ffodus yn ei ddewisiad o'i alwedigaeth, ac yn yr amgylchiadau dan y rhai y dechreuodd ar ei waith. Y fendith ddaearol fwyaf i bob dyn yw ymwybyddiaeth ei fod yn y gwaith y mae wedi ei gyfaddasu iddo, ac amcan pob gwladwriaeth ddylai fod i sicrhau datblygiad neilltuol pob un o'i deiliaid. Hyn oedd gogoniant Athen: nid yn unig yr oedd wedi agor y ffordd i ddatblygiad rhydd pob math o dalent yn ei dinaswyr, ond wedi gwneud yn bosibl hefyd i bob dinesydd ddatblygu yn ol ei natur ei hun. Dyma'r nod at yr hon yr ydym ninnau yn cyrchu, ond hyd yn hyn nid ydym wedi ei gyrraedd o bell ffordd. Hyd y blynyddoedd diweddaf hyn nid oedd manteision addysg yn gyrhaeddadwy i'n bechgyn athrylithgar ac uchelgeisiol, fel ag yr oedd o fewn cyrraedd y Sais neu'r Ysgotyn ieuanc. Bu adeg yn ein hanes pan nad oedd i Gymro ieuanc talentog unrhyw ddrws agored ond drws y pulpud, ac yn y pulpud Cymdeig caed, nid yn unig y pregethwr, ond yr ysgolhaig, y gwyddonydd, yr athronydd, y bardd, ac ond odid y newyddiadurwr hefyd. Bu'r pulpud yn ddiameu ar ei ennill trwy hyn, ond colled fu i dyfiant diwylliant ar y cyfan; ac os enillodd mewn nerth, collodd mewn eangder ysbryd. Y perygl yn ein dyddiau ni yw i'n bechgyn gael eu denu i'r alwedigaeth