Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Thomas Matthews, Cymru, Ionawr 1917.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ellyll Ofn," Cenfigen, a "Balchder Trahaus." Ceisiodd ddatgan hefyd mewn alegori yr hen athrawiaeth am y saith pechod marwol. Ni hoffai fynd drwy yr amser hynny eto. Yr oedd ei fywyd fel pe bai yn y cylch hwnnw yn Annwn y soniodd Dante am dano,—

"I fan amddifad o bob gwawl cyrhaeddais—I le'n bugunad megis môr tymhestlog,

Pan fo croeswyntoedd arno mewn cydymgais."

Cynnyrch y cyfnod hwn oedd y rhain i gyd. Cynlluniodd yn y clai, y rhai

Pe cai'r holl aur sy dan y lloer ei gasglu, (A'r oll a fu) nis gallai wneud i'r undyn O'r blinedigion yma ddadluddadu;"

rhai fel honno y tynnodd Fersil sylw Dante yn yr Ail Folgia—

Edrych ymaith:
Ar lecyn sy' nes atom, sylla'n ddyfal,
Modd gallo'th lygaid ganfod wyneb diffaith.
Cyffoden fratiog, front, a mawr ei chagal,
Sy draw'n ymgrafu a'i hewinedd bawlyd:
Yewatia'n awr; ac eilwaith, mae'n ymgynnal.
Hon ydyw Thais, y butain. Pan ofynid
Gan ei gordderchwr: 'A oes gennyt lawer
O ddiolch,' ebe. 'Oes,' a rhyfedd hefyd."

Ond, paham son am y rhai hyn? Yr oedd wedi hen laru arnynt cyn iddo eu gorffen. Teimlai ei fod yn y caddug a'r niwl; yr oedd fel pe bai'n ymbalfalu, yn ceisio dod allan a methu. Mynych meddyliai, pe byddai yng Nghymru, na fuasai wedi cael y fath brofiad. Yr oedd yng Nghymru awyrgylch rhy bur i'r eithafoedd hyn. Dyheai

am dreiddio i'r adnabyddiaeth
O'r unig wir a'r bywiol Dduw."

Ni allai ddelfrydu—ac heb ddelfrydu ni allai obeithio am godi—ac os na allai ef ddringo i fyny i Fynydd Sancteiddrwydd y Goruchaf ac anadlu awyr bur y tragwyddol bethau yno, sut gallai efe erfyn am gael ereill i ganfod ac ymestyn at y delfrydau uchaf welai'n lledrithaidd yn y caddug oedd o gylch ei enaid? Teimla fod yna ddisgyniad cyflym wedi cymeryd lle yn ei natur, gan ei fod yn gweled a meddwl gormod ar ochr isaf dynoliaeth Y peth hawddaf yn y byd oedd hyn. Nid oedd ac nid oes angen gwir athrylith i son am ffaeleddau ac am y pechod sydd o gwmpas. Ychydig allu celfyddyd yn unig oedd ac sydd eisieu. Ffyddlondeb yn unig yw'r nôd—gwaith gwawl—lunydd dichwaeth heb ddawn na thalent i weled dim oedd yr oll bron. Yr oedd am GREU— creu yng ngwir ystyr y gair, ac nis gallai. Nid creu oedd arddangos yr hyn welai o'i gwmpas. Nid dyrchafiad oedd ymdrybaeddu yn llaid bywyd ereill ; na, ni ddyrchafai arall chwaith tra'n gwneuthur hyn. Hwyrach mai iselhau dynoliaeth yr oedd. O'r diwedd cododd Haul y Goruchaf o'r newydd ar ei fywyd—diflannodd y caddug oedd yn gordoi ei weledigaeth fel crwybr y bore. Syrthiodd mewn cariad. A llawenydd dirfawr yn ei galon teimlodd yn ei enaid—

Fel teimlai Glaucos wedi bwyta'r borfa
A'i gwnaeth yn gymrawd hafal i'r dwyfoliaid.
Mynd hwnt i'r dynol: Traethu hyn per verba[1]
Nis gellir. Boed siampl felly ddigon
I'r sawl yr oedo Grâs ben draw i'r yrfa.
O gariad, a reoli'r Goruchelion
Ti wyddost, ai dim onid ailanedig
Ran gipiwyd gan dy leufer i'r nefolion,
Pan aed a'm sylw gan wybrenol fiwsig
A geir yn ol dy gywair a'th amseriad,
Gan Rod, a wneir, o'th geisio'n fyth wynfydig!
Cyneuwyd cymaint—dyna'r ymddanghosiad—
O'r nen gan fflam yr Haul, erioed ni lenwodd,
Na glaw nac afon, lyn o'r fath ymlediad.
Dymuniad am yr Achos a gyneuodd
Y newydd sain ynghyd a'r mawr oleuni,
(Cyn hyn, ei lymder, f'enaid i nis teimlodd).'


Gallai ddelfrydu yn awr,——a hapus oedd —yr oedd yr holl gynllun ganddo'n llwyr. Gwnaeth flaen-luniau o'r oll mewn clai a phlastr. Gwnaeth Ddwynwen—

"Y fun dawel wallt felen,
Eurwyd y baich ar dy ben;
Gwyn yw dy gorff ac uniawn,
A lluniaidd oll—llyna'i ddawn."

Rhoddodd ar y wyneb wawl y Gwynfyd. i'w goruwch brydferthu—yr hyn gredai ddylai fod ar wynepryd pob rhiain o'r iawn ryw. Cynlluniodd "Ffydd" hefyd, a "Gobaith "—deallodd beth oeddent yn berffaith, meddai ef. Deallodd Dante'n well deallodd mai hyn oedd Ffydd,—

Disgwyl cryf diwyro
Am fythol wynfyd—dyna ydyw Gobaith:
Grâs Duw â haedd blaenorol yn cyd—ffrwytho.
O lawer seren, cefais y wybodaeth;
Ond gyntaf, i fy nghalon y'i disdyllodd
Pen Cantor i Ben Llyw y Greadigaeth.
'Gobeithied ynot '—yn ei Salm ê ganodd—
'Y rhai adwaenant d'enw.' Pwy nas adwaen
Os ffydd, o'r fath a gefais i, a gafodd?"


  1. Mewn geiriau.